Gwerthoedd Caniad

Mae model, ethos a strwythur Caniad wedi cael eu datblygu gan banel o bobl sydd wedi cael profiad byw gyda gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau a gofalwyr, ar draws chwe sir Gogledd Cymru. Mae gwerthoedd Caniad yn cael eu harddangos ar ein Siarter Ymglymiad
Gwerthoedd Caniad yn Saesneg
Non-Judgemental

Nid yw Caniad yn barnu unigolyn ar eu profiadau, eu hadborth na’u hargymhellion yn y gorffennol, ac mae pob person yn rhydd i fod yn nhw eu hunain.

Dignity & Respect

Gyda Caniad, mae gan bawb yr hawl i gael eu trin â pharch ac urddas ac rydym yn sicrhau eu bod yn cynnal hyn.

Encouragement

Mae Caniad yn annog defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn agored i fod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.

Trust

Mae Caniad yn meithrin perthynas broffesiynol â’n defnyddwyr gwasanaeth yn seiliedig ar ymddiriedaeth, a bod yr unigolyn wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Communication

Yn Caniad credwn mai cyfathrebu yw’r ffactor pwysicaf wrth ddatblygu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol. Rydym yn cadw cysylltiad rheolaidd â’n defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, sefydliadau a gwasanaethau eraill, ac yn rhannu gwybodaeth ac yn darparu cymorth lle bo angen.

Involvement

Mae Caniad yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ar bob cam, o gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr mewn arolygon ac adborth hyd at rolau gwirfoddoli. Cymryd rhan mewn cynllunio, datblygu a gwella gwasanaethau yw ein prif nod.

Listened To

Gan fod Caniad yn cael ei arwain gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, rydym yn gwrando ar adborth, argymhellion a phrofiadau defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i helpu i lunio a darparu gwasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Help & Support

Mae Caniad yn helpu ac yn cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth a’n gofalwyr i gyrraedd eu llawn botensial, gan gynnig hyfforddiant a chael cysylltiadau cryf ag ystod o wasanaethau ym mhob maes rydym yn gweithredu er mwyn cyfeirio’n effeithlon at wasanaethau cefnogi.

Confidentiality

Mae Caniad yn cadw holl wybodaeth cleientiaid yn gyfrinachol ac mae unrhyw adborth, argymhellion, profiad neu fanylion personol yn cael eu cadw’n ddienw

Fair Play

Mae Caniad yn hyrwyddo tegwch i bawb heb wahaniaethu.

Recognition

Mae Caniad yn cydnabod cryfderau pob unigolyn ac yn cael ei annog i gyrraedd eu potensial llawn.

Accountability

Mae Caniad yn credu mewn atebolrwydd, nid beio.

Diversity

Mae Caniad yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwasanaeth. Rydym yn annog pobl heb gynrychiolaeth ddigonol â nodweddion gwarchodedig i fod yn rhan o lunio gwasanaethau.

Valued

Mae Caniad yn gwerthfawrogi staff, defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a’u cyfranogiad mewn dylunio a darparu gwasanaethau.

Equality

Mae Caniad yn trin pob unigolyn â chydraddoldeb ym mhob maes o’n gwaith.