Mae Caniad yn cynnal Ffair Adferiad ar Ynys Môn fel cyfle i drigolion ddod i wybod pa wasanaethau Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau sydd ar gael ar yr Ynys.

Mae’r syniad ar gyfer y ffair wedi dod o adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth am y diffyg ymwybyddiaeth o ba wasanaethau sydd ar gael iddynt. Er bod Ynys Môn yn ymddangos yn fach i eraill, mae’n eithaf gwasgaredig, gyda llawer o ddefnyddwyr gwasanaeth yn teimlo eu bod yn rhy ynysig i gael cymorth os a phan fydd ei angen arnynt.

Rydym am achub ar y cyfle hwn i gael gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau ac Iechyd Meddwl i ddod draw i ddangos i Ynys Môn pa gymorth sydd gennych i’w gynnig. P’un a ydych yn gwasanaethu Gogledd Cymru i gyd neu dim ond Ynys Môn yn unig, byddem yn gwerthfawrogi’n fawr eich presenoldeb i helpu i gysylltu defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr â’r cymorth sydd ei angen arnynt.

Bydd y Ffair Adferiad yn cael ei chynnal ym mhrif neuadd chwaraeon Canolfan Hamdden Llangefni, o 9yb-3yp ar y 27ain o Chwefror 2024.

Bydd te, coffi a bwyd poeth/oer ar gael yn rhad ac am ddim, ond dewch â’ch byrddau eich hun ar gyfer eich stondinau.

Gellir trefnu cludiant am ddim hefyd o’r mannau codi canlynol: Caergybi, Benllech, Amlwch a Phorthaethwy. Ffoniwch i archebu sedd.

Unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost at mhairi.allardice@caniad.org.uk neu ffoniwch ein Harweinydd Tîm John Redican ar 0800 0853 382